Cyllid & Thollau EM

Newid manylion cofrestru

Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu dull cyfleus i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM) ynghylch newidiadau i'ch manylion cofrestru TAW, er enghraifft cyfeiriad eich Prif Le Busnes, manylion cyfrif banc neu gyfeiriad e-bost. Gallwch ddweud wrth CThEM y dyddiad y daw'r newidiadau i rym, neu os ydynt wedi digwydd.

Sylwer: Ni fydd CThEM yn newid eich Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol yn awtomatig os dywedwch wrthynt am newidiadau yn eich manylion banc. Bydd yn rhaid i chi newid y rhain drwy gysylltu â'ch banc.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â'r gwasanaeth hwn gweler y canllaw Newidiadau i'ch manylion busnes a'ch cofrestriad TAW ar wefan CThEM.